SL(5)299 – Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018

Cefndir a Phwrpas

Mae adran 94A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn darparu y caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch arfer swyddogaethau gan awdurdodau lleol a roddir iddynt gan reoliadau a wneir o dan adran 87 (rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal) o’r Ddeddf honno.

Caiff rheoliadau a wneir o dan adran 87 o Ddeddf 2014 wneud darpariaeth bellach ynghylch plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol, gan gynnwys rheoliadau ynghylch lleoli plant gyda rhieni maeth awdurdod lleol (adran 92 o’r Ddeddf honno).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol, a ddisgrifir fel “darparwyr awdurdodau lleol” yn y Rheoliadau hyn..

Gweithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Nodwyd y pwyntiau canlynol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2(vii) (anghysondebau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg) mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.   Yn nhestun Cymraeg rheoliad 10(5), cyfeirir at “baragraff (1)(a), (b), (g) ac (i)”, tra bod y Saesneg yn cyfeirio at “paragraph (1)(a), (b), (c) and (h)”.

2.   Yn nhestun Saesneg rheoliad 11, ceir cyfeiriad at “(d) any area authority” (unrhyw awdurdod ardal); nid oes cyfeiriad cyfatebol yn y Gymraeg.

Craffu ar rinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Cydnabyddwn y pwynt hwn a gwneir diwygiad ar y cyfle nesaf sydd ar gael.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

7 Ionawr 2019